Skip to site navigation

Breadcrumb

Rydych yn
  • cartref

cartref




Mae Golwg ar Bost yn sefydliad hollol annibynnol, nad yw'n gysylltiedig â Grwp y Post Brenhinol nac yn rhan o'r Llywodraeth. Sefydlwyd Golwg ar Bost i sicrhau fod swyddfeydd post, Parcelforce, y Post Brenhinol ac unrhyw ddarparwyr post sy'n cystadlu, yn rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i chi, eu cwsmeriaid.

Rôl Golwg ar Bost yw diogelu, hyrwyddo a datblygu buddiannau holl gwsmeriaid gwasanaethau post yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae wyth miliwn ar hugain o bobl yn ymweld â swyddfeydd post o leiaf unwaith yr wythnos. Ar gyfartaledd, rydym yn anfon 100 o lythyrau ac yn derbyn bum gwaith hynny gan ffrindiau a busnesau bob blwyddyn. Mae bron bawb o bob oedran a phob cefndir yn defnyddio'r post mewn rhyw ffordd ac maent angen corff defnyddwyr effeithlon i wneud yn sicr y caiff eu barn ei chlywed. Dyma pam y sefydlwyd Golwg ar Bost.

Mae Golwg ar Bost yn ymgyrchu am well gwasanaeth post drwyddi draw mewn dosbarthu post, safonau gwasanaeth, prisio, cystadleuaeth yn y farchnad bost a darpariaeth swyddfeydd post a'r gwasanaethau a gynigiant.

Yr ydym yn sicrhau y caiff llais defnyddwyr ei gynrychioli mewn unrhyw newidiadau i wasanaethau neu bolisïau newydd.

Mae'n gweithgareddau yn cynnwys:

  • Ymchwilio materion o gonsýrn ac ymgyrchu dros newid neu welliannau cwsmer
  • Cynghori a lobio'r Rheoleiddiwr, y Llywodraeth, Grwp y Post Brenhinol a budd-ddalwyr eraill am farn a buddiannau defnyddwyr
  • Negodi a monitro safonau gwasanaeth a thargedau
  • Cynghori'r Rheoleiddiwr ar weithredu priodol os yw Grwp y Post Brenhinol yn methu cyrraedd targedau perfformiad neu'n torri ei amodau trwydded mewn unrhyw ffordd arall
  • Trafod problemau neu faterion post lleol
  • Ymchwilio a datrys cwynion unigol yn erbyn y Post Brenhinol, Swyddfa'r Post a Parcelforce neu weithredwyr post trwyddedig eraill
  • Hysbysu cwsmeriaid am faterion post a datblygiadau marchnad allweddol
  • Annog amgylchedd cystadleuol i hyrwyddo arloesedd a dewis cwsmeriaid

Drwy'n rhwydwaith o naw pwyllgor a swyddfeydd ledled y Deyrnas Gyfunol, rydym hefyd yn cymryd rhan mewn materion ar lefel leol megis cau swyddfa'r post neilltuol, problemau ar rownd ddosbarthu neu dreialon cynnyrch neu wasanaethau newydd mewn ardal.

Ar lefel unigol, medrwn helpu gyda chwynion am y gwasanaeth post. Os ydych eisoes wedi cwyno i'r Post Brenhinol (neu i unrhyw ddarparydd post arall) ac yn anfodlon gyda'r ymateb, mae Golwg ar Bost yma i helpu i fynd â'ch achos ymhellach.

Os hoffech wybod mwy am Golwg ar Bost yng Nghymru cliciwch yma

 

Yn ôl i'r dechrau

Sub-navigation

Contact details

  • 08456 013265
  • 028 9027 9348

Accessibility options

English

Skip to site navigation